Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
2 Mawrth 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12654
------
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1, 2, 4 a 6 gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog â’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Am 13.58, cafodd y trafodion eu hatal dros dro am 1 funud
2 Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Dechreuodd yr eitem am 14.26
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.11
Atebwyd gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meironydd) Pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi ei wneud o effaith cytundeb masnach y Deyrnas Gyfunol ac Aotearoa (Seland Newydd) ar amaethyddiaeth yng Nghymru?
4 Datganiadau 90 eiliad
The item started at 15.21
Gwnaeth Rhun ap Iorwerth ddatganiad am - Llongyfarch aelodau o Fad Achub RNLI Bae Trearddur a fydd yn derbyn medalau dewrder heddiw. Dyma’r orsaf gyntaf erioed i dderbyn medal dewrder arian, am achubiaeth ar fwrdd bad achub Atlantic 85 dosbarth B (fel arfer dim ond badau achub mawr sydd yn ei derbyn, ond oherwydd difrifoldeb yr achos yma, mae’r RNLI wedi penderfynu ei rhoi i fad achub Bae Trearddur).
5 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Alun Davies (Blaenau Gwent) - effaith gorlifoedd stormydd
Dechreuodd yr eitem am 15.23
NDM7833 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i leihau effaith andwyol gorlifoedd stormydd.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) gosod dyletswydd ar ymgymerwr carthffosiaeth y mae ei ardal yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru i sicrhau gostyngiad cynyddol yn effaith andwyol gollyngiadau o orlifoedd stormydd yr ymgymerwr;
b) lleihau effeithiau andwyol gollyngiadau carthion ar yr amgylchedd ac ar iechyd y cyhoedd;
c) ei gwneud yn bosibl i'r ddyletswydd ar ymgymerwr carthffosiaeth gael ei gorfodi gan Weinidogion Cymru neu gan yr Awdurdod gyda chydsyniad awdurdodiad cyffredinol a roddir gan Weinidogion Cymru, neu'n unol â hynny.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc
Dechreuodd yr eitem am 15.58
NDM7932 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu y dylai Dydd Gŵyl Dewi fod yn ŵyl banc.
Cyd-gyflwynwyr
Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cefnogwyr
Natasha Asghar (Dwyrain De Cymru)
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl Plaid Cymru - Anhwylderau bwyta
Dechreuodd yr eitem am 16.39
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7934 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta 2022 yn digwydd rhwng 28 Chwefror a 6 Mawrth 2022.
2. Yn nodi Adolygiad o Wasanaeth Anhwylderau Bwyta Llywodraeth Cymru 2018 ac adolygiad diweddar Beat, Adolygiad Gwasanaeth Anhwylder Bwyta yng Nghymru - 3 Blynedd yn Ddiweddarach.
3. Yn credu bod gwelliannau mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta yn ystod y tair blynedd diwethaf wedi bod yn anwastad, gan barhau â'r annhegwch a nodwyd yn yr adolygiad.
4. Yn gresynu at y ffaith bod triniaeth i'r rhai yr effeithir arnynt yng Nghymru yn amrywio'n fawr yn dibynnu ar oedran, diagnosis a lleoliad.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymrwymo i gynyddu'r adnoddau a ddyrennir i iechyd meddwl o flwyddyn i flwyddyn yn ystod y pum mlynedd nesaf a dwyn byrddau iechyd i gyfrif am eu buddsoddiad mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta;
b) cyhoeddi fframwaith newydd ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta sy'n cynnwys amserlenni ar gyfer cyflawni targedau, gan ganolbwyntio ar:
i) ymyrraeth gynnar ac atal;
ii) gofal integredig;
iii) cymorth i deuluoedd a gofalwyr eraill;
iv) buddsoddi yn y gweithlu, gan gynnwys cymorth ar gyfer lles staff;
c) ailsefydlu a chynnal arweinyddiaeth glinigol dros ddarparu gwasanaethau anhwylderau bwyta ar lefel genedlaethol;
d) ariannu archwiliad clinigol anhwylderau bwyta i sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn casglu ac yn adrodd ar set safonol a chynhwysfawr o ddata o ansawdd uchel.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
40 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod darparu gwasanaethau anhwylderau bwyta sy'n diwallu'r ystod o anghenion yn her; bod y pandemig wedi effeithio'n anghymesur ar wasanaethau; a bod angen gwneud gwelliannau.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymrwymo i barhau i wella gwasanaethau anhwylderau bwyta ledled Cymru, gyda mwy o fuddsoddiad i gefnogi hyn;
b) cryfhau'r arweinyddiaeth glinigol sydd ei hangen i yrru'r gwelliannau.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:
pennu targedau a chyhoeddi ystadegau misol ar amseroedd aros ar gyfer triniaeth iechyd meddwl, gan gynnwys materion fel anhwylderau bwyta
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.32 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
8 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.35
Crynodeb o Bleidleisiau
9 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.39
NDM7933 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Chwaraeon yng Nghasnewydd: cefnogi clybiau a digwyddiadau chwaraeon cymunedol yn y ddinas.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.02
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 8 Mawrth 2022